- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Wrth i fwy a mwy o drigolion Cymru droi at y wasanaethau budd-daliadau Llywodraeth y DU, roedd Comisiynydd y Gymraeg eisiau deall i ba raddau yr oedd y gwasanaethau hynny yn cael eu cynnig yn Gymraeg, a pha mor hygyrch oedd y gwasanaethau hynny i siaradwyr Cymraeg.
Cynhaliwyd archwiliad felly i wasanaeth y Credyd Cynhwysol, sef y prif fudd-dal a weinyddir gan Adran Gwaith a Phensiynau y DU i bobl yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau
Mae gwasanaethau Credyd Cynhwysol ar gael yn y Gymraeg, gyda safon y gwasanaeth yn gyffredinol yn dda. Roedd y rhan fwyaf o'r defnyddwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn gadarnhaol am eu profiadau.
Fodd bynnag, mae ansicrwydd ymhlith defnyddwyr am ddefnyddio’r Gymraeg, sy’n cynnwys pryderon am oedi wrth ddefnyddio’r gwasanaeth, anhawster wrth chwilio am wybodaeth yn Gymraeg, a phryder ynglŷn â deall y derminoleg a’r iaith ffurfiol.
Er bod y gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg, nid ydynt yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol. Bu anawsterau wrth ddod o hyd i wybodaeth Gymraeg ar wefan GOV.UK, gan arwain defnyddwyr i ddefnyddio’r gwasanaethau yn Saesneg.
Dylai'r Gymraeg fod yn fwy gweledol, a dylid sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol.
Mae trefniadau da i sicrhau darpariaeth anogwyr gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfrifon ar-lein hawlwyr yn gweithredu’n llawn yn y Gymraeg, gyda’r gallu i gofnodi a chyfathrebu drwy’r dyddlyfr ar-lein. Nodwyd fodd bynnag bod bylchau yn y gwasanaeth wrth sicrhau gwasanaeth cyson gan yr anogwyr gwaith Cymraeg.
Ar sail y canfyddiadau hyn mae’r Comisiynydd wedi cyflwyno cyfres o argymhellion i Adran Gwaith a Phensiynau a Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU. Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau bod y gwasanaethau Cymraeg a ddarperir yn hygyrch ac yn cael ei gynnig yn rhagweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth. Rhoddir argymhelliad hefyd i sicrhau bod ton yr iaith a’r derminoleg a ddefnyddir yn gyfarwydd ac yn ddealladwy er mwyn annog mwy o hawlwyr i ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg.