Yn unol â’r egwyddor o gyd-reoleiddio, bydd y Comisiynydd yn gweithio i roi mwy o arweiniad a chefnogaeth i sefydliadau er mwyn gwella cydymffurfiaeth a gwella’r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig i’r cyhoedd.
Bydd hyn yn digwydd drwy gynllun hyrwyddo cydymffurfiaeth, a fydd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ar draws y flwyddyn. Byddwn hefyd yn datblygu adnoddau a chanllawiau ymarferol ac yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gyda sefydliadau.
Bydd adran Cymorth ac Adnoddau’r wefan yn cael ei datblygu i adlewyrchu’r gwaith yma, a’r rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi yma.
Rhaglen Ddigwyddiadau 2025-26
Dyma fanylion ar gyfer y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn ystod 2025-26 i hyrwyddo cydymffurfiaeth. Bydd mwy o wybodaeth am amser, cynnwys a manylion cofrestru ac ymuno yn cael eu hanfon yn agosach at y dyddiadau ac unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei ychwanegu yma.
Mehefin 2025
Fforwm Iechyd a Gofal
- Dyddiad: 18/06/2025
- Disgrifiad: Fforwm i drafod a rhannu profiadau am weithrediad cynlluniau ymgynghoriadau clinigol.
- Lleoliad: Ar-lein
- Anghenion Cofrestru: Gwahoddiad i sefydliadau perthnasol drwy e-bost
Gorffennaf 2025
Cynhadledd Gweithleoedd
- Dyddiad: 08/07/2025
- Disgrifiad: Cynhadledd undydd ar ddatblygu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
- Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd
- Anghenion Cofrestru: Cofrestru wedi cau – cysylltwch ar [email protected] i ymuno a’r rhestr aros.
Medi 2025
Cynlluniau iaith: Rhannu arferion da
- Dyddiad: 8 Medi
- Disgrifiad: Digwyddiad rhannu arfer da i gyrff sydd yn gweithredu Cynlluniau Iaith
- Lleoliad: Tŷ William Morgan, Swyddfa Llywodraeth y DU, Caerdydd
- Anghenion Cofrestru: Drwy wahoddiad
Fforwm Gweithleoedd
- Dyddiad: 25 Medi
- Disgrifiad: Cyfle i rannu arferion da ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a datblygiad polisïau defnydd mewnol.
- Lleoliad: I’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau
Hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg yn effeithiol
- Dyddiad: Medi – dyddiad i gadarnhau
- Disgrifiad: Sesiwn i rannu arferion da gan sefydliadau o ran hyrwyddo’r gwasanaethau hynny sydd ar gael yn Gymraeg
- Lleoliad: I’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau
Tachwedd 2025
Digwyddiad/Seminar Arferion Da
- Dyddiad: Tachwedd - i’w gadarnhau
- Disgrifiad: Cyfle i ddysgu am arferion da gan sefydliadau wrth weithredu’r safonau
- Lleoliad: Wyneb yn wyneb – lleoliad i’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau
Rhagfyr 2025
Fforwm y Gymraeg mewn Gweithleoedd
- Dyddiad: 11 Rhagfyr
- Disgrifiad: Cyfle i rannu arferion da ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a datblygiad polisïau defnydd mewnol.
- Lleoliad: I’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau
Gweithdy technoleg
- Dyddiad: Rhagfyr – i’w gadarnhau
- Disgrifiad: Rhannu gwybodaeth ac arferion da am gydymffurfiaeth wrth ddefnyddio technoleg a sut gall technoleg gefnogi darparu gwasanaethau dwyieithog
- Lleoliad: I’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau
Chwefror 2026
Fforwm Iechyd a Gofal
- Dyddiad: 5 Chwefror
- Disgrifiad: Fforwm i drafod a rhannu profiadau am weithrediad cynlluniau ymgynghoriadau clinigol.
- Lleoliad: I’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau
Fforwm y Gymraeg mewn Gweithleoedd
- Dyddiad: 19 Chwefror
- Disgrifiad: Cyfle i rannu arferion da ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a datblygiad polisïau defnydd mewnol.
- Lleoliad: I’w gadarnhau
- Anghenion Cofrestru: I’w gadarnhau